Yr Eryr Gwyrdd
Yn gydweithrediad rhwng M-SParc a dau denant, Aerialworx a Fourtytwable, ganed yr Eryr Gwyrdd o arian SBRI Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Ffermio Net Sero. Mae’n ymateb i’r alwad am ddatgarboneiddio’r sector amaeth, drwy ddod â dyfeisiadau technolegol i’r maes i fynd i’r afael â’r hen fater o chwistrellu plaladdwyr.
Mae’r Eryr Gwyrdd yn drôn a fydd yn adnabod chwyn ac yn mynd i’r afael â nhw fesul un gan fynd at wraidd y broblem. Bydd yr Eryr Gwyrdd yn arddangos sut y gall deallusrwydd artiffisial, gweledigaeth gyfrifiadurol a thechnoleg dronau sbarduno'r diwydiant ffermio a thwf yn economi Cymru. Bydd y prosiect yn arbed costau, amser, effaith amgylcheddol, allyriadau carbon a gwella diogelwch fferm. Fel arfer gwneir y gwaith gan dractorau diesel neu â llaw gan orchuddio erwau o dir, yn aml heb unrhyw angen gan mai dim ond ar ran fechan o'r cae mae chwyn.
Mae'r Eryr Gwyrdd yn brosiect cysyniad, fodd bynnag, os gellir profi'r dechnoleg, yna bydd cyllid pellach yn cael ei sicrhau i fasnacheiddio'r prosiect, gan alluogi'r tîm i fynd ag ef i'r farchnad er budd amaethyddiaeth genedlaethol.
Gellir addasu'r AI hefyd i adnabod chwyn brodorol ar gyfandiroedd eraill, felly byddai'r Eryr Gwyrdd yn gallu hedfan ar draws y byd.