Arddangosfa
-
Mae’r Eryr Gwyrdd yn hedfan
Mae drôn yr Eryr Gwyrdd wedi cwblhau ail gam ei ddatblygiad gyda ffrind newydd – Scout Drone 1!
Cynhaliwyd taith arddangos lwyddiannus yng Ngholeg Cambria, Llysfasi. Aeth Scout Drone 1 ati i ddynodi chwyn ac adrodd yn fanwl i’r Eryr Gwyrdd ble i dargedu gyda phlaladdwyr, gan arbed amser, arian ac effaith amgylcheddol trin y cae cyfan.
Enghraifft wych o gydweithrediad tenantiaid gydag M-SParc yn arwain y gwaith o reoli’r prosiect, AerialWorx yn adeiladu’r dronau’n bwrpasol, Fortytwoable yn hyfforddi’r model AI a BIC Innovation yn arwain ar Gynllunio Busnes a Masnacheiddio.