Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi lansiad gwefan newydd Clwstwr AgriTech & FoodTech – platfform deinamig sydd wedi’i greu i gefnogi arloesi, cydweithio a thwf ar draws y sector.

Mae’r cartref digidol newydd hwn yn dod â phopeth at ei gilydd sydd ei angen ar fusnesau, ymchwilwyr ac entrepreneuriaid ym meysydd AgriTech a FoodTech i ffynnu. Yn ei hanfod, mae’r clwstwr yn ymwneud â chreu cysylltiadau a chyfleoedd. P’un ai ydych chi’n fusnes newydd yn chwilio am gymorth personol, yn ymchwilydd yn edrych am bartneriaethau posib, neu’n gwmni profiadol yn barod i dyfu, mae’r platfform wedi’i ddylunio gyda’ch taith chi mewn golwg.

Un o gryfderau mwyaf y clwstwr yw’r mynediad mae’n ei ddarparu. Mae aelodau bellach yn gallu manteisio ar gefnogaeth un-i-un sydd wedi’i theilwra i’w hanghenion penodol – gan helpu i oresgyn heriau ac agor drysau at dwf. Ar yr un pryd, mae’r wefan yn annog cysylltiadau rhwng cyfoedion, gan alluogi busnesau ac arloeswyr i rannu syniadau, cydweithio ar brosiectau, a chryfhau’r ecosystem ehangach drwy gydberthnasau ystyrlon.

Mae mentora hefyd yn elfen hollbwysig o’r cynnig. Trwy’r clwstwr, mae modd i aelodau gael mynediad at brofiad a mewnwelediad gan arbenigwyr yn y maes, sydd yn barod i rannu eu gwybodaeth ac i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr AgriTech a FoodTech. Yn ogystal, mae’r platfform yn fan cychwyn at gyllid – gan ddod ag wybodaeth ynghyd am grantiau, galwadau buddsoddi a ffrydiau cyllid cyhoeddus, i helpu busnesau sicrhau’r adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i fynd â’u syniadau i’r lefel nesaf.

Ond yn fwy na dim, mae’r wefan newydd yn gwneud hi’n haws nag erioed i aros ar y blaen. O newyddion a mewnwelediadau’r sector i ddigwyddiadau sydd i ddod a chyfleoedd agored – mae popeth bellach mewn un lle – yn hygyrch, yn gyfoes, ac yn berthnasol i’ch gwaith. Mae’r Clwstwr AgriTech & FoodTech yn fwy na dim ond rhwydwaith; mae’n gymuned gynyddol sy’n ymrwymedig i drawsnewid ein systemau bwyd, gyrru technoleg ymlaen, ac i gefnogi arloesi cynaliadwy. Gyda’r platfform newydd yma, rydyn ni’n agor y drws i gydweithio ac effaith hyd yn oed yn fwy.

Dewch i bori’r wefan, gweld beth sydd ar gael, a bod yn rhan o sector sy’n siapio dyfodol bwyd ac amaeth yng Nghymru – ac ymhellach.